Rydym yn gwmni teuluol gyda’r awdurdod i ddelio â pheiriannau Honda, Yamaha a Polaris ATVs & UTVs, ynghyd â Beiciau Trydan UBCO. Rydym yn ymfalchïo mewn cadw stociau mawr o'r peiriannau mwyaf poblogaidd a ddefnyddir gan ein cwsmeriaid i sicrhau y gallwn gadw'ch busnes i droi. Er ein bod yn arbenigo yn y farchnad fasnachol, rydym hefyd yn werthwyr awdurdodedig peiriannau chwaraeon a hamdden, os ydych chi awydd ychydig o hwyl. Rydym yn ymfalchïo mewn rhoi gwasanaeth heb ei ail i'n cwsmeriaid. Mae'r gwasanaeth hwn nid yn unig yn cynnwys prynu a gwerthu ATVs ac Atodion pwrpasol ond gallwn eich sicrhau hefyd y cewch y gofal gorau ar ôl prynu.
Rydym ni, Tîm Dalton, yn falch iawn o gydweithio gyda chwmnïau fel Honda, Yamaha, Polaris ac UBCO i wneud yn siwr fod y cwsmer yn cael cynnig y cynhyrchion sy'n arwain y diwydiant, gan mai'r hyn yr ydym yn anelu at ei gyflawni yw siop arbenigol ar gyfer eich holl anghenion ATV a UTV.
Mewn byd sy'n newid yn barhaus, rydym wedi symud i'r farchnad beiciau gwaith ac antur trydan yn ddiweddar ac rydym yn falch iawn o fod â’r hawl i ddelio mewn Beiciau UBCO yng Nghymru. Rydym wedi ceisio creu awyrgylch hamddenol yn Nhalsarn, lle gallwch gymryd eich amser i edrych ar ein cynnyrch a chael cyngor proffesiynol i sicrhau eich bod yn cael y peiriant iawn y tro cyntaf, oherwydd os ydych chi'n hapus, byddwn ninnau’n hapus!
Mae Tîm Dalton’s yn cynnwys 18 o bobl talentog, gyda’r mwyafrif wedi bod gyda’r cwmni ers blynyddoedd lawer. Mae gan ein Tîm frwdfrydedd a gwybodaeth helaeth o'r holl nwyddau rydyn ni'n eu gwerthu ac ymdrechwn i gynnal a rhagori ar ddisgwyliadau ein cwsmeriaid ar bob achlysur.

Mae ein Hadran Wasanaeth yn cynnwys 8 technegydd sy’n defnyddio yr holl offer diagnostig ac arbenigol o fewn y maes. Gallwn ddarparu ar gyfer pob math o faterion sy’n ymwneud ag ATV / UTV, yn amrywio o wasanaethu, ailadeiladu injan a blwch gêr, diagnosis ac atgyweirio trydanol. Mae Dalton’s ATVs yn atgyweiriwr cymeradwy ar gyfer eich holl waith Yswiriant ac rydym yn credu’n gryf yn y defnydd o gydrannau dilys wrth atgyweirio a gwasanaethu. Mae hyn yn ein galluogi i warantu ein gwaith gwasanaethu, gan wybod fod gennym gefnogaeth cwmnïau fel Honda, Yamaha, Polaris ac UBCO.
Mae gennym nifer o beiriannau benthyg ATV ac UTV sydd ar gael i'n cwsmeriaid i leihau unrhyw anghyfleustra wrth i'r gwasanaeth / atgyweirio gael ei wneud. Cewch fenthyg y peiriannau hyn yn rhad ac am ddim pan ddewch â'ch peiriant atom. Gan arbenigo cant y cant mewn ATVs, UTVs yn ogystal â Beiciau Trydan UBCO , gallwch fod yn dawel eich meddwl na fydd materion tymhorol neu gynnydd yn y galw am beiriannau’n tynnu ein sylw. Mae eich peiriant mewn dwylo diogel gyda ni.
Yn ein prif swyddfa yn Nhalsarn, mae gennym ystod o ATVs ac UTVs ynghyd â dewis o atodion sydd ar gael i’w llogi, boed hynny am un diwrnod neu am gyfnodau hirach.
Mae gan ein Hadran Gydrannau ystod gynhwysfawr mewn stoc i gwmpasu’r holl ofynion gwasanaeth o ddydd i ddydd ac, os archebwch cyn 3.00yp, gellir anfon y rhan fwyaf o’r cydrannau sydd ar gael fel eu bod yn cyrraedd drannoeth, yn dibynnu ar eich lleoliad.
Cymerwch ychydig funudau i edrych o gwmpas ein gwefan ac os oes unrhyw beth o ddiddordeb i chi, yna cysylltwch â ni.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych yn fuan.
Diolch
John a'r teulu.

